Rhaglen Codi Calon
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar eich iechyd corfforol hefyd am nifer o resymau. Yn 2004 cafodd Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion, mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill, gan gynnwys Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru a Thîm Iechyd Cyhoeddus Ceredigion, gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i lunio menter newydd i ymdrin â hyn. Eu nod oedd sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd yn medru cael cefnogaeth angenrheidiol i’w galluogi i fyw bywydau iachach a gwella eu hiechyd corfforol. O’r gwaith hwn y deilliodd y rhaglen ‘Codi Calon’.
Bu manteision gofalu am ein cyrff yn well yn brif destun papurau newydd a chylchgronau ers nifer o flynyddoedd bellach. Er bod bellach fwyfwy o dystiolaeth i brofi bod ymarfer corff, bwyta’n iach a chymryd swm cymedrol yn unig o gyffuriau at ein hwyliau, yn dda i’n hiechyd meddyliol ac emosiynol, nid yw hynny mor hysbys.
Er bod nifer o ffactorau yn effeithio ar iechyd pobl, mae Codi Calon o’r farn bod gan bawb hawl i gael gwybodaeth amdanynt, yn enwedig am y rhai y mae ganddynt beth rheolaeth drostynt; a’r sgiliau i wneud newidiadau. Rydym ni o’r farn y gall yr addasiadau hyn mewn ymddygiad iach rymuso ac mae hynny’n gam ar y llwybr tuag at obaith a gwella. Dyma’r neges yr ydym yn ceisio ei hyrwyddo ochr yn ochr ag egwyddor y dull o drin y person cyfan.
Rydym yn cefnogi hynny gyda chefnogaeth ymarferol. Trwy ddarparu hyfforddiant i staff mewn dulliau iach o fyw, grantiau bychain a chyngor a chefnogaeth, llwyddodd Codi Calon i gefnogi sefydliadau gwirfoddol a statudol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngheredigion i gynnig mwy o gyfleoedd byw’n iach i’w cleientiaid. Mae rhoi sgiliau a gwybodaeth i weithwyr iechyd meddwl am fanteision bwyta’n iach, cadw’n brysur ac effaith alcohol a chyffuriau ar iechyd, wedi codi eu hyder i gefnogi eu cleientiaid yn y meysydd hyn ac i ofalu amdanyn nhw eu hunain hefyd.
Mae Codi Calon wedi cynhyrchu ‘Arweinlyfr i Ffyrdd Iachach o Fyw ar gyfer Gweithwyr Iechyd Meddwl’ a ysgrifennwyd ar gyfer staff a gwirfoddolwyr ac mae wedi gwerthuso tair blynedd gyntaf y rhaglen hefyd. Mae’r ddwy ddogfen ar gael ar y wefan hon. Eleni, rydym wedi cyhoeddi ‘Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion’ - arweinlyfr hunangymorth i unrhyw un sydd yn dioddef problemau meddyliol ac emosiynol.
Rydym wedi medru cadarnhau ac ymestyn ein gwaith o ganlyniad i’r cyllid parhaol yr ydym wedi’i dderbyn. Mae Codi Calon wedi dechrau hyfforddi gyda gofal sylfaenol i fynd i’r afael â’r rhwystrau y gall pobl â phroblemau iechyd meddwl gael wrth geisio cael gwasanaethau Meddyg Teulu. At hynny, rydym hefyd yn parhau i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl gwirfoddol a statudol yng Ngheredigion i helpu pobl i wella eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Codi Calon.
Jan Batty 03.03.09