Codi Calon
Mae iechyd corfforol pobl sydd yn dioddef problemau iechyd meddwl yn aml yn wael hefyd. Dangoswyd llawer o ddiddordeb ac ymchwiliwyd i’r cysylltiad hwn yn ddiweddar a chredir bod y rhesymau sydd i gyfrif am hynny yn gymhleth.
Er hynny, mae Codi Calon o’r farn y gallwn gymryd camau a gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn byw, beth bynnag fo ein hamgylchiadau, i wella ein hiechyd.
Buasai llawer o bobl sydd yn dioddef problemau iechyd meddwl yn dymuno byw bywyd iachach, ond maent yn wynebu nifer o anawsterau ychwanegol wrth wneud y newidiadau hyn.
Prosiect ar gyfer Ceredigion yng Ngorllewin Cymru i helpu pobl i oresgyn y rhwystrau hyn a gwella eu hiechyd yn gyffredinol yw Codi Calon.