Cysylltiadau Defnyddiol
Os ydych chi’n dioddef problem iechyd meddwl, neu os ydych yn gweithio gyda phobl sydd yn dioddef felly, gallai’r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol i chi. Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar sut y gallwch elwa’n gorfforol ac yn feddyliol o fwyta’n dda, gwneud mwy o ymarfer corff a gofalu am eich corff.
www.mentalhealth.org.uk
Mae gan Sefydliad Iechyd Meddwl wybodaeth ar-lein a nifer o lyfrynnau da gan gynnwys y canlynol:
llyfryn ‘How Exercise can Help Depression’
a llyfryn ‘Healthy Eating and Depression’ a gwe gyfarwyddyd ‘Feeding Minds’
Taflen ffeithiau ar ‘Smoking and Mental Health’
Taflen ffeithiau ar ‘Alcohol and Mental Health’
www.mind.org.uk
Mae gan Mind amrediad o gyhoeddiadau gan gynnwys rhai ar weithgareddau corfforol, therapïau cyflenwol, gofalu amdanoch eich hun ac effeithiau bwyd ar hwyliau.
www.foodandmood.org
Mae gan wefan Bwyd a Hwyliau adnoddau ar sut y mae bwyd yn effeithio ar ein hwyliau a sut i fwyta i gael gwell iechyd meddwl.
www.gasp.org.uk
Mae Gasp yn cynhyrchu nifer o adnoddau da, mae rhai wedi’u hysgrifennu’n benodol ar gyfer pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu.
www.fih.org.uk
Mae gan y Sefydliad Iechyd Integredig ganllaw i feddygaeth gyflenwol.