Arweinlyfr i Ffyrdd Iachach o Fyw ar gyfer Gweithwyr Iechyd Meddwl

Datblygwyd yr arweinlyfr hwn fel rhan o raglen Codi Calon; sef prosiect a luniwyd i wella iechyd corfforol pobl sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl yng Ngheredigion.

Mae gan bawb hawl i gael gwybodaeth a allai eu helpu i wella eu hiechyd ac mae’r sefydliadau hynny sydd yn gweithio yn y sector iechyd meddwl mewn sefyllfa dda i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer eu cleientiaid.

Mae’r Arweinlyfr yn rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd ar ffyrdd i sicrhau mwy o weithgareddau iach a chefnogi pobl sydd yn dymuno newid.


Ffyrdd Iachach o Fyw

Tuedda iechyd corfforol pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl fod yn waeth na gweddill y boblogaeth. Er, dengys tystiolaeth y gallai ffyrdd iachach o fyw wella iechyd meddwl, hwyliau a lles unigolion yn ogystal â’u hiechyd corfforol. Er enghraifft, mae gweithgaredd corfforol rheolaidd yn lleihau’r risg o iselder ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl gan gynnwys lleihau pryder, gwella hwyliau a hunan-barch.

Dewis Iechyd
Papur Gwyn y Llywodraeth
2004

Edrychwch ar yr Arweinlyfr AR-LEIN nawr!

Cliciwch yma i’w agor ar ffurf PDF.
Bydd yn rhaid i chi gael Adobe Reader i ddarllen y ffeil PDF hon.
Cliciwch yma i’w hagor yn Word.

© Mind Your Heart/Codi Calon 2009-2010
Cysylltwch â Paul Williams am gymorth technegol