Y Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion
Arweinlyfr hunan gymorth a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Mind Norwich yn 2005 yw’r Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion. Cafodd ei adolygu’n llwyr ar gyfer Ceredigion gydag adran newydd ar gyfer sefydliadau a chysylltiadau lleol a rhagair gan Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005-6. Codi Calon, sefydliad partneriaeth leol, sydd yn gyfrifol am ei gyhoeddi yma. Dywedodd awdur y llyfr, Jim Green, o Mind Norwich:
“Mae’r Llyfr Adferiad yn adnodd ymarferol sydd yn cynnig cwmnïaeth i’r rhai sydd yn dioddef, ond sydd ar daith gadarnhaol bywyd tuag at wella. Fe’i seiliwyd ar ganfyddiadau allweddol y rhai hynny sydd wedi teithio’r llwybr hwnnw. Rydym yn falch iawn bod cynulleidfa gwbl newydd yn medru elwa o’r llyfr o ganlyniad i waith Codi Calon.”Mae’r Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion ar gael drwy’r sefydliadau sydd yn gweithio dros iechyd meddwl ac mewn llyfrgelloedd lleol. Gallwch brynu copi am £5 (gan gynnwys cludiant a phacio) trwy gysylltu â Chodi Calon.