MIND YOUR HEART WINS NATIONAL AWARD
Mind Your Heart has won a national award for its work with mental health organisations. We were given the ‘good practice’ award by Public Health Wales at a meeting of their Awards Panel on 4th October.
The National Award and Quality Mark is given for public health programmes that demonstrate they meet set criteria for planning, delivery, sustainability and evaluation. Mind Your Heart is the smallest programme to have been given the award to date.
Assembly Member, Elin Jones, said: “I’m very pleased that this innovative programme has been recognised with a national award. I know that a lot of hard work has gone into developing this programme and I congratulate everyone who’ve ensured that it is a success in promoting good mental and physical health in Ceredigion”.
Jan Batty, the programme worker, said: “I hope that everyone who has supported the programme and contributed to its success will feel as honoured as I do to receive this award. It is recognition of the hard work of those involved and the enthusiasm and interest of all the voluntary organisations, clients, GP practices and teams in mental health services”.
Mind Your Heart Newsletter NOV 2011 Award
CODI CALON YN ENNILL GWOBR GENEDLAETHOL
Mae rhaglen Codi Calon wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith gyda mudiadau iechyd meddwl. Fe wnaeth Panel Gwobrwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfarfod ar 4ydd Hydref, gan roi’r wobr ‘arfer da’ i ni.
Rhoddir y Wobr Genedlaethol a’r Nod Ansawdd i raglenni iechyd cyhoeddus sy’n dangos eu bod yn bodloni meini prawf penodol ar gyfer cynllunio, darparu, cynaliadwyedd a gwerthuso. Codi Calon yw’r rhaglen leiaf i ennill y wobr hyd yma.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Elin Jones: “Rwy’n falch iawn bod y rhaglen arloesol hon wedi cael ei chydnabod â gwobr genedlaethol. Rwy’n gwybod bod llawer iawn o waith caled wedi’i wneud er mwyn datblygu’r rhaglen hon, ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi sicrhau ei bod yn llwyddiant wrth hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da yng Ngheredigion”.
Dywedodd Jan Batty, gweithiwr y rhaglen: “Rwy’n gobeithio y bydd pawb sydd wedi cefnogi’r rhaglen a chyfrannu at ei llwyddiant yn teimlo’r un anrhydedd â minnau wrth i ni gael y wobr. Mae’n cydnabod gwaith caled y rheini a fu’n cymryd rhan, yn ogystal â brwdfrydedd a diddordeb yr holl fudiadau gwirfoddol, cleientiaid, practisau meddygon teulu a thimau gwasanaethau iechyd meddwl”.