Artwork on the theme of ‘Recovery’ goes on display this week in four GP surgeries around Ceredigion to celebrate World Mental Health Day this year.
World Mental Health Day on October 10th is an annual campaign to draw attention to the need to “make mental issues a global priority”. This year’s theme is ‘Mental Health and Primary Care: Enhancing Treatment and Promoting Mental Health’.
One in four of us will experience some kind of common mental health problem each year. Many will seek help from their GP and primary care team and will be given the help they need or put in touch with other sources of support. For other people it may be a longer struggle and the journey of recovery from their experience can be ongoing. People from local mental health groups wanted to reach out to others with a message of hope – that Recovery is possible. They have done this through their artistic responses on the theme of ‘Recovery’ which will be on display in the week of 5th October at Meddygfa Emlyn, Cardigan Health Centre and Tanyfron and Church surgeries.
This project has been supported by the Ceredigion Service User Involvement Worker and Mind Your Heart. The ‘Ceredigion Recovery Book’, which was published in March, is available in English and in Welsh through existing organisations working for mental health and in local libraries. It can also be bought through Mind Your Heart and local bookshops.
Y Siwrnai Greadigol i Adferiad
Yr wythnos hon bydd gwaith celf ar thema ‘Adferiad’ yn cael ei arddangos mewn pedair meddygfa Meddygon Teulu yng Ngheredigion, er mwyn dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni.
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar y 10fed o Hydref yn ymgyrch flynyddol i dynnu sylw at yr angen i “wneud materion iechyd meddwl yn flaenoriaeth fyd-eang”. ‘Iechyd Meddwl a Gofal Sylfaenol: Gwella’r Driniaeth a Hyrwyddo Iechyd Meddwl’ yw’r thema eleni.
Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl cyffredin bob blwyddyn. Bydd llawer yn gofyn i’w Meddyg Teulu a thîm gofal sylfaenol am gymorth a byddant yn cael y cymorth y maent ei angen neu rhoddir hwy mewn cysylltiad â ffynonellau eraill o gymorth. Fe all brwydr a siwrnai rhai eraill tuag at adferiad iechyd fod yn hwy ac yn barhaol. Roedd pobl o grwpiau iechyd meddwl lleol am ymestyn allan at eraill gyda neges o obaith, sef, bod Adferiad Iechyd yn bosibl. Gwnaethant hynny drwy eu hymatebion artistig ar thema ‘Adferiad’ a arddangosir yn ystod wythnos 5ed Hydref ym Meddygfa Emlyn, Canolfan Iechyd Aberteifi a Meddygfeydd Tanyfron a’r Eglwys.
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Weithiwr Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Ceredigion a Codi Calon. Mae ‘Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg drwy’r sefydliadau sydd yn gweithio dros iechyd meddwl ar hyn o bryd ac mewn llyfrgelloedd lleol. Gellir hefyd ei brynu oddi wrth Codi Calon ac mewn siopau llyfrau lleol.