
A book to help people in Ceredigion who are going through mental or emotional distress was launched by Elin Jones AM at the National Library of Wales on Friday 6th March 2009.
The Ceredigion Recovery Book is a self-help guide originally published by Norwich Mind in 2005. It has been completely revised for Ceredigion with a new section for local organisations and contacts and a preface by Gwyneth Lewis, Wales’ National Poet for 2005-6. It is being published here by Mind Your Heart.
The book’s author Jim Green from Norwich Mind said
“The Recovery Book is practical resource: an offer of companionship for those on the difficult, but ultimately life-affirming journey of recovery. It is based on the key discoveries of those who have made the journey. We are delighted that Mind Your Heart is bringing the Recovery Book to a whole new audience.”
Local people who have used mental health services and those working with people in distress attended.
Following the official launch a ‘human library’, representing the 18 ‘ways of connecting’ in the Recovery Book, circulated. People were able to find out more about Art, Food, Movement and Work for example, and how they can help us to reconnect with ourselves and others.
The Ceredigion Recovery Book will be made available through existing organisations working for mental health and in local libraries. It can also be bought through Mind Your Heart at a low cost of £5 and local bookshops.
Ddydd Gwener 6ed Mawrth 2009, lansiodd Elin Jones yr AC, lyfr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer pobl Ceredigion sydd yn dioddef problemau meddyliol ac emosiynol.
Arweinlyfr hunan gymorth a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Mind Norwich yn 2005 yw’r Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion. Cafodd ei adolygu’n llwyr ar gyfer Ceredigion gydag adran newydd ar gyfer sefydliadau a chyslltiadau lleol a rhagair gan Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005-6. Codi Calon sydd yn gyfrifol am ei gyhoeddi yma.
Dywedodd awdur y llyfr, Jim Green, o Mind Norwich:
“Adnodd ymarferol sydd yn cynnig cwmnïaeth i’r rhai sydd yn dioddef, ond sydd ar daith gadarnhaol bywyd tuag at wella, yw’r Llyfr Adferiad. Fe’i seiliwyd ar ganfyddiadau allweddol y rhai hynny sydd wedi teithio’r llwybr hwnnw. Rydym yn falch iawn bod cynulleidfa gwbl newydd yn medru elwa o’r llyfr o ganlyniad i waith Codi Calon.”
Roedd pobl leol sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl a’r rhai sydd yn gweithio gyda phobl â phroblemau felly yn y lansiad.
Wedi’r lansiad swyddogol, bu ‘llyfrgell ddynol’ i gynrychioli’r 18 ‘ffordd o gysylltu’ yn y Llyfr Adferiad, yn cymysgu â’r gynulleidfa. Roedd modd i bobl ddysgu rhagor am y celfyddydau, bwyd, symud a gweithio er enghraifft, a sut y gallant ein helpu ni i ailgysylltu â ni ein hunain ac ag eraill.
Bydd y Llyfr Adferiad ar gyfer Ceredigion ar gael drwy’r sefydliadau presennol sydd yn gweithio dros iechyd meddwl ac mewn llyfrgelloedd lleol. Gellir ei brynu oddi wrth Codi Calon am £5 yn unig ac mewn siopau llyfrau lleol.